Debbie Wasson
Ymarferydd Profedigaeth – Ceredigion
Helo, Debbie ydw i ac rwy’n falch iawn o ymuno â Thîm Sandy Bear!
Mae profedigaeth plant wedi bod yn agos at fy nghalon ers amser maith ers i fy mrawd farw pan oeddwn yn fy arddegau (sawl lleuad yn ôl!)
Mae gen i gefndir proffesiynol mewn nyrsio Pediatrig, rydw i’n Weithiwr Angladdau ac yn ddiweddar rydw i wedi gweithio fel gofalwr yn Hosbis Skanda Vale.
Er fy mod yn newydd i Sandy Bear, fe wnes i wirfoddoli gyda 2 elusen debyg yng Nghernyw a Plymouth.
Rwyf wedi byw yng Ngorllewin Cymru ers bron i 15 mlynedd, gyda fy mhartner, 2 ferch yn eu harddegau, ein cath a’n ci. Mae’r traethau, y coed a’r afonydd yma yn gwneud i’m henaid ganu!
Yn fy amser hamdden fe welwch fi gyda phrosiect creadigol neu lyfr, yn rhoi triniaethau adweitheg, yn treulio amser gyda theulu a ffrindiau, yn yr ardd neu yn y goedwig.
Rhai pethau hwyliog…
Teisen neu fisgedi? – cacen
Ehedydd bore neu dylluan nos? – tylluan nos
Campfa neu nofio? – nofio
Gêm fwrdd neu gêm fideo? – gêm fwrdd
Gwersylla neu glampio? – gwersylla
Sôs coch neu saws brown? – sos coch