Gwirfoddolwr

Yn Sandy Bear rydym yn ffodus bod gennym wirfoddolwyr anhygoel sy’n cefnogi ein plant a’n pobl ifanc mewn amrywiaeth o ffyrdd, o gynorthwyo yn y grwpiau Cefnogi Teuluoedd, codi arian ar gyfer yr elusen, i anfon tedi bêrs at plant a pobl ifanc mewn profedigaeth, mae rôl i bawb. Ar y dudalen hon fe welwch ein cyfleoedd gwirfoddoli presennol ar gyfer ledled Cymru. Rydym yn hoffi adeiladu perthynas ystyrlon hirdymor gyda’n gwirfoddolwyr, ac felly dim ond pan fydd gennym rôl benodol yr ydym yn hysbysebu am wirfoddolwyr newydd.

Os nad ydych chi’n gweld rôl sy’n cyfateb i’ch gofynion, ymunwch â’n Cymuned Dalent, a gallwn baru eich sgiliau a’ch profiad â’n rolau gwirfoddoli.

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych

Pam Gwirfoddoli?

Pan fyddwch yn cyfrannu eich amser a’ch sgiliau i Sandy Bear fel gwirfoddolwr, gallwn gyflawni mwy i’r bobl ifanc pan fyddant ein hangen fwyaf. Yn gyfnewid am eich ymrwymiad anhygoel, rydym yn cynnig

  • Cwrs hyfforddi profedigaeth deuddydd pwrpasol (yn dibynnu ar y rôl)
  • Diwrnodau hyfforddi ad hoc
  • Cadw mewn cysylltiad cylchlythyrau a digwyddiadau cymdeithasol
  • Sgiliau trosglwyddadwy/cyfeirnod ar gyfer eich CV neu dystysgrifau DPP
  • Bod yn rhan o gymuned ymroddedig o gydweithwyr a gwirfoddolwyr gyda chenhadaeth gyffredin i helpu pobl ifanc i oresgyn rhwystrau a heriau sylweddol.
  • Ond yn bwysicaf na dim, y boddhad o gyfrannu’n uniongyrchol at ganlyniad cadarnhaol i bobl ifanc pan fyddant ein hangen fwyaf. Fydden ni wir ddim yn gallu ei wneud hebddoch chi!
Leah

Rebeca

Gwirfoddolwr

Dechreuais wirfoddoli gyda Sandy Bear haf diwethaf ac yn cael cymaint ohono. Mae’r teuluoedd rydw i’n siarad â yn mor ddiolchgar am rywun yn gwirio i mewn arnyn nhw ac yn cynnig cefnogaeth a chyngor. Rwyf wedi dysgu llawer o weithio yn y swyddfa gyda’r ymarferwyr ac wedi datblygu’r hyder i ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth o fy ngyrfa flaenorol a phrofiadau byw.  

Mae cymaint o wahanol agweddau ar SB y gall gwirfoddolwyr ymwneud â nhw, mae rhywbeth gyda ni i bawb beth bynnag fo’ch sgiliau neu faes diddordeb penodol. Ni allaf ei argymell ddigon !!

Pwy All Wirfoddoli?

Rydym yn chwilio am bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc. Nid oes rhaid i chi gael profiad o gefnogi pobl ifanc mewn amgylchiadau anodd, gallwn eich helpu gyda hynny. Mae angen i chi fod yn gyfeillgar, yn hawddgar ac yn ddeallus.

Os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant a phobl ifanc yn eich ardal leol, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu i’n cymuned.

Y Broses Gwirfoddoli Mewn 6 Cham Hawdd

Chwe cham i wirfoddoli

Hyfforddiant Gwirfoddolwyr sydd ar ddod

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr yn eich ardal i helpu gyda:

  • Cefnogi ein Tîm Darparu Gwasanaeth gydag ymweliadau cartref
  • Helpu mewn digwyddiadau cymunedol lleol a Chodi Arian
  • Cynorthwyo ein Profedigaeth
  • Tîm mewn Grwpiau Cefnogi Teuluoedd

Pam gwirfoddoli i Sandy Bear?

  • 2 ddiwrnod o hyfforddiant pwrpasol ar gefnogi plant a phobl ifanc mewn profedigaeth
  • Cefnogaeth reolaidd gan y Tîm
  • Trwy gefnogi Sandy Bear, mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr gan alluogi’r elusen i weithio gyda llawer mwy o blant, pobl ifanc a theuluoedd pan fyddan nhw ein hangen ni fwyaf.
HyfforddiantDyddiadLleoliad
Hyfforddiant Gwirfoddolwyr Sir GaerfyrddinMawrth 5ed a 19egCaerfyrddin (CAVS) Ymgeisiwch
Hyfforddiant Gwirfoddolwyr Abertawe6ed & 19eg o FawrthAbertawe/Caerfyrddin Ymgeisiwch
Hyfforddiant Gwirfoddolwyr Sir BenfroMawrth 13eg a 19egAberdaugleddau/Caerfyrddin Ymgeisiwch
Hyfforddiant Gwirfoddolwyr Sir Fynwy a Thorfaen24/25 Ebrill*Canolfan Gwybodaeth Lles, Y Fenni, NP7 5NE Ymgeisiwch
Hyfforddiant Gwirfoddolwyr Ceredigion30ain Mehefin/1af GorffennafLleoliad i’w gadarnhau
Hyfforddiant Gwirfoddolwyr Gwynedd a Chonwy5ed a 6ed MehefinLleoliad i’w gadarnhau Ymgeisiwch

*Oherwydd amgylchiadau annisgwyl rydym yn gorfod newid dyddiad yr hyfforddiant yng Nghanolfan Llesiant y Fenni oedd i fod i gael ei gynnal ym mis Mawrth. Byddwn nawr yn cynnal y digwyddiad ar 24/25 Ebrill. Diolch yn fawr .

Rolau Gwirfoddoli Presennol:

Cliciwch ar y botwm ar waelod y rhestr hon i wneud cais

Mae Sandy Bear yn chwilio am dîm o wirfoddolwyr i helpu i gefnogi’r Ymarferwyr Profedigaeth a’r Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd yn y Brif Swyddfa. Mae’r rôl yn amrywiol ac mae ganddi gymysgedd o ddyletswyddau dros y ffôn/gweinyddol a chymorth mwy ymarferol. Gyda hyfforddiant a mentora byddem wrth ein bodd yn gallu cefnogi mwy o blant, pobl ifanc a theuluoedd gyda’ch cymorth chi.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr yn y gymuned a all helpu i godi arian. Gallai hyn olygu mynychu digwyddiadau a chynnal raffl, trefnu noson gwis yn tafarn leol, taith gerdded 5k neu ddosbarthu a chasglu blychau elusen. Mae gan Sandy Bear becynnau codi arian sy’n rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i drefnu digwyddiad llwyddiannus, neu ddeg.

Weithiau mae angen cymorth swyddfa ychwanegol ar Sandy Bear i sicrhau bod gweithgareddau fel gwneud jar cof neu greu bocs atgofion yn cael eu paratoi ar gyfer yr Ymarferwyr Profedigaeth neu fod pecynnau o lyfrau a thedis yn cael eu hanfon at blant a phobl ifanc. Weithiau mae angen help ar Sandy Bear i baratoi cyflenwadau ar gyfer diwrnodau hyfforddi staff addysgu, yn enwedig pan fo nifer fawr o bobl y mae angen eu hyfforddi. Lleolir y rôl hon yn ein brif swyddfa yn Aberdaugleddau ac mae ar sail ad-hoc. Gellir trefnu amseroedd sy’n addas i’r gwirfoddolwr.

Mae Sandy Bear yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gynnal digwyddiadau yn y gymuned. Mae’r digwyddiadau hyn yn aml yn digwydd yn yr haf, er bod Tachwedd a dechrau Rhagfyr yn amseroedd poblogaidd eraill. Bydd gwirfoddolwyr digwyddiadau yn gosod y stondin ar y diwrnod (bydd yr holl ddeunydd Sandy Bear yn cael ei ddarparu) ymgysylltu â phobl sy’n mynychu’r digwyddiad gan ddweud wrthynt am Sandy Bear a beth rydym yn gwneud. Yn aml mae raffl neu gwerthu pethau SB i godi arain i helpu ariannu gwaith Sandy Bear. Bydd y rôl yn cynnwys rhai sefyll yn ystod y digwyddiad ac weithiau mae angen cerdded o’r maes parcio ac hefyd mae angen help i symud nwyddau.

Mae Sandy Bear yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i redeg stondinau gwybodaeth mewn ysgolion. Mae’r digwyddiadau hyn yn digwydd yn ystod tymor yr ysgol, yn aml ym mis Hydref neu fis Mai. Fydd Gwirfoddolwyr Digwyddiadau Ysgol yn gosod y stondin (bydd holl ddeunydd Sandy Bear yn cael ei ddarparu), fel arfer yn neuadd yr ysgol. Mae rhieni a staff yn ymweld â’r bwrdd, ac mae’r gwirfoddolwyr yn siarad â nhw am Sandy Bear. Bydd y rôl yn cynnwys rhai sefyll yn ystod y digwyddiad ac weithiau mae angen cerdded o’r maes parcio. Fydd troli bach gyda chi ar gyfer symud nwyddau.

Mae’r rôl yn cynnwys cefnogi’r ymarferwyr pan fyddant yn gweld plant a phobl ifanc ar sail un-i-un a helpu yn y grwpiau cymorth a gynhelir gan Sandy Bear. Mae’r grwpiau naill ai’n cael eu cynnal un diwrnod yr wythnos mewn blociau o 5 wythnos trwy gydol y flwyddyn neu’n cael eu cynnal dros ddau ddiwrnod llawn. Mae’r rhain yn dibynnu ar y galw lleol a’r cyllid sydd ar gael. Mae gwirfoddolwyr cymorth i deuluoedd yn cynorthwyo’r tîm darparu gwasanaeth gyda gweithgareddau a all gynnwys gwneud jar gof, bwrdd stori, darllen llyfrau sy’n briodol i’r oedran ar farwolaeth, a siarad am eu person arbennig.

Rydym yn chwilio am bobl (18+) sy’n mwynhau cyfryngau cymdeithasol. O hoffi ein postiadau i helpu i greu cynnwys ar gyfer ein porthiant, mae gennym rôl i chi. Gallwch gymryd rhan cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Bydd cyfleoedd i helpu i greu postiadau, riliau a straeon newydd ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gyda’n person cyfryngau cymdeithasol, ond os ydych chi eisiau hoffi a rhannu ein postiadau mae hynny’n iawn hefyd. Cyfleu neges Sandy Bear i’r gynulleidfa ehangaf yw’r hyn sy’n bwysig. A gellir ei wneud unrhyw bryd neu le, felly mae’n rôl berffaith i bobl sydd eisiau gwirfoddoli, ond heb lawer o amser.

Become a Volunteer


Play a crucial role in the delivery and development of Sandy Bear

If you think you have what it takes, and a little time spare to support us, then we’d love to hear from you.