Dyddiadau Hyfforddi Gwirfoddolwyr

Elusen profedigaeth Gymreig yw Sandy Bear sy’n cefnogi plant a phobl ifanc, 0-25 oed, sydd wedi cael profedigaeth neu sy’n wynebu profedigaeth.
Rydym yn gweithio ledled Cymru yn cynnig cymorth i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y canlyniadau gorau ar ôl i rywun y maent yn ei garu farw.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr yn eich ardal i helpu gyda:
- Cefnogi ein Tîm Darparu Gwasanaeth gydag ymweliadau cartref
- Helpu mewn digwyddiadau cymunedol lleol a Chodi Arian
- Cynorthwyo ein Tîm Profedigaeth mewn Grwpiau Cefnogi Teuluoedd
Pam gwirfoddoli i Sandy Bear?
- 2 ddiwrnod o hyfforddiant pwrpasol ar gefnogi plant a phobl ifanc mewn profedigaeth
- Cefnogaeth reolaidd gan y Tîm
- Trwy gefnogi Sandy Bear, mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr gan alluogi’r elusen i weithio gyda llawer mwy o blant, pobl ifanc a theuluoedd pan fyddan nhw ein hangen ni fwyaf.
Diwrnodau Hyfforddi Gwirfoddolwyr i ddod
Hyfforddiant | Dyddiad | Lleoliad |
---|---|---|
Diwrnod 1 | Mawrth 5ed | Caerfyrddin (CAVS) |
Diwrnod 1 | 6ed o Fawrth | Abertawe |
Diwrnod 1 | Mawrth 13eg | sir Benfro |
Diwrnod 2 | Mawrth 19eg | Caerfyrddin (CAVS) |
Diwrnod 1 a 2 | 26/27 Mawrth | Y Fenni – Canolfan Gwybodaeth Lles |
