Dyddiadau Hyfforddi Gwirfoddolwyr

Elusen profedigaeth Gymreig yw Sandy Bear sy’n cefnogi plant a phobl ifanc, 0-25 oed, sydd wedi cael profedigaeth neu sy’n wynebu profedigaeth.
Rydym yn gweithio ledled Cymru yn cynnig cymorth i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y canlyniadau gorau ar ôl i rywun y maent yn ei garu farw.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr yn eich ardal i helpu gyda:
- Cefnogi ein Tîm Darparu Gwasanaeth gydag ymweliadau cartref
- Helpu mewn digwyddiadau cymunedol lleol a Chodi Arian
- Cynorthwyo ein Tîm Profedigaeth mewn Grwpiau Cefnogi Teuluoedd
Pam gwirfoddoli i Sandy Bear?
- 2 ddiwrnod o hyfforddiant pwrpasol ar gefnogi plant a phobl ifanc mewn profedigaeth
- Cefnogaeth reolaidd gan y Tîm
- Trwy gefnogi Sandy Bear, mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr gan alluogi’r elusen i weithio gyda llawer mwy o blant, pobl ifanc a theuluoedd pan fyddan nhw ein hangen ni fwyaf.
Diwrnodau Hyfforddi Gwirfoddolwyr i ddod
Nodyn: Gwiriwch ein Tudalen Gwirfoddolwyr am y Dyddiadau Hyfforddi diweddaraf gan ein bod yn aml yn diweddaru gyda sesiynau newydd!
Hyfforddiant | Dyddiad | Lleoliad |
---|---|---|
Hyfforddiant Gwirfoddolwyr Sir Gaerfyrddin | Mawrth 5ed a 19eg | Caerfyrddin (CAVS) Ymgeisiwch |
Hyfforddiant Gwirfoddolwyr Abertawe | 6ed & 19eg o Fawrth | Abertawe/Caerfyrddin Ymgeisiwch |
Hyfforddiant Gwirfoddolwyr Sir Benfro | Mawrth 13eg a 19eg | Aberdaugleddau/Caerfyrddin Ymgeisiwch |
Hyfforddiant Gwirfoddolwyr Sir Fynwy a Thorfaen | 24/25 Ebrill* | Canolfan Gwybodaeth Lles, Y Fenni, NP7 5NE Ymgeisiwch |
*Oherwydd amgylchiadau annisgwyl rydym yn gorfod newid dyddiad yr hyfforddiant yng Nghanolfan Llesiant y Fenni oedd i fod i gael ei gynnal ym mis Mawrth. Byddwn nawr yn cynnal y digwyddiad ar 24/25 Ebrill. Diolch yn fawr
