Sut i Atgyfeirio Plentyn/Person Ifanc am Gymorth
Rydym yn cynnig cymorth Profedigaeth i’r holl Blant a Phobl Ifanc ar ôl colli eu person arbennig. Gallai hyn fod yn farwolaeth hanesyddol sy’n effeithio ar y Plentyn neu’r Person Ifanc neu’n farwolaeth sydyn / ddiweddar. Rydym yn cynnig cyngor a chymorth ar unwaith ar gyfer marwolaethau trawmatig a hunanladdol, ac rydym yn cefnogi teuluoedd gyda thorri newyddion drwg a helpu rannu hyn drwy defnyddio’r iaith gywir.
Mae cymorth profedigaeth yn hanfodol i Blant a Phobl Ifanc yn dilyn marwolaeth eu person arbennig gan ei fod yn eu helpu i brosesu a llywio eu hemosiynau, adeiladu gwytnwch, a datblygu mecanweithiau ymdopi iach yn ystod amser bregus. Rydym yn helpu drwy normaleiddio gofid a sicrhau bod Plant a Phobl Ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu cefnogi, a’u paratoi i symud ymlaen wrth gofio eu person arbennig.
Unwaith y byddwn yn derbyn ffurflen gyfeirio, byddwn yn cysylltu â’r rhiant/gofalwr neu’r person ifanc ac yn dechrau’r broses. Gan ein bod yn gweithio’n holistig, byddwn yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i’r teulu a’n hanfon adnoddau. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad dros y ffôn / ar-lein hyd nes y byddwn yn gallu cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb. Rydym yn darparu ymyriad 1-1 therapiwtig sy’n canolbwyntio ar atgofion cadarnhaol o’u person arbennig yn arwain at grŵp cymorth cymheiriaid, os oes angen.
Nid oes cyfyngiad ar y sesiynau rydym yn eu darparu gan ein bod yn cael ein harwain gan y Plentyn / Person Ifanc i gyfarwyddo ein gwaith.
Mae’r ail ffurflen ‘Ffurflen Cyfeirio Gofid Rhagweladwy’ i helpu Plentyn / Person Ifanc oedran 0-25 sy’n wynebu profedigaeth. Mae gofid rhagweladwy yn deimlad o golled cyn i rywun farw. Efallai y bydd Plentyn / Person Ifanc yn ei deimlo os oes gan rywun arbennig iddynt ganser, dementia neu salwch arall a fydd yn arwain at eu marwolaeth. Yn y sefyllfa drallodus hon, gall Plant/Pobl ifanc brofi synnwyr o ddryswch ac emosiynau cymysg. Gallwn gefnogi teuluoedd gyda thorri newyddion drwg a helpu i ddefnyddio’r iaith gywir. Mae’n arferol dechrau galaru cyn marwolaeth, os byddwch chi’n dod yn ymwybodol bod person arbennig yn eich bywyd yn mynd i farw.
Gall pob teimlad a meddyliau ar yr adeg hon fod yr un mor ddwys ac anodd â’r rhai ar ôl marwolaeth a dyna pam y gall ein hymyrraeth helpu’r teulu I gyd. Rydym yn gwrando ac yn darparu dealltwriaeth a chysylltiadau i Blant a Phobl Ifanc i wynebu marwolaeth sydd ar ddod o’u person arbennig gyda mwy o wytnwch a llai o ofn.
Unwaith y byddwn yn derbyn ffurflen gyfeirio, byddwn yn cysylltu â’r rhiant/gofalwr neu’r person ifanc a dechrau’r broses o ddeall ac adeiladu atgofion. Gan ein bod yn gweithio’n holistig, byddwn yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i’r teulu a’n hanfon adnoddau.
Nid oes cyfyngiad ar y sesiynau rydym yn eu darparu gan ein bod yn cael ein harwain gan y Plentyn / Person Ifanc i gyfarwyddo ein gwaith.
Cyfeiriwch Nawr
Rydym yn derbyn hunan-atgyfeiriadau gan deuluoedd ac atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc 0-25 oed yr effeithir arnynt gan farwolaeth neu salwch angheuol / sy’n cyfyngu ar fywyd person sy’n arbennig iddyn nhw. Rydym hefyd yn derbyn ymholiadau ac yn rhoi cyngor i sefydliadau addysg a gweithwyr proffesiynol a gallwn ddarparu hyfforddiant.
Sylwch, ar hyn o bryd mae ein gwasanaethau llawn wedi’u cyfyngu i ardaloedd daearyddol penodol.
Os oes gennych bryderon difrifol am iechyd meddwl Plentyn / Person Ifanc, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu. Mewn argyfwng y tu allan i oriau, ffoniwch y gwasanaethau brys neu ewch yn syth i’ch adran Damweiniau ac Achosion Brys leol.