Ana Waite

Pennaeth Codi Arian a Marchnata

Ymunodd Ana â thîm Sandy Bear fel Pennaeth Codi Arian a Digwyddiadau ym mis Medi 2024, gan ddod â chyfoeth o brofiad gyda hi mewn manwerthu a chodi arian. Mae ei chefndir helaeth yn y meysydd hyn wedi ei harfogi â’r sgiliau sydd eu hangen i yrru mentrau dylanwadol sy’n cyd-fynd â chenhadaeth Sandy Bear. Mae ymrwymiad Ana i wella lles plant yn sbardun i’w gwaith, gan adlewyrchu ei hangerdd dwfn dros wneud gwahaniaeth i fywydau ifanc.

Yn wreiddiol o Sir Benfro, mae Ana wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, lle mae’n mwynhau bywyd boddhaus gyda’i theulu. Mae hi’n fam ymroddedig i ddwy ferch ifanc, sy’n ei chadw ar flaenau ei thraed ac yn dod â llawenydd aruthrol i’w bywyd bob dydd. Yn ogystal â’i hymrwymiadau proffesiynol a theuluol, mae Ana yn aelod gweithgar o’i chymuned. Mae’n neilltuo amser i’w chyngor lleol, lle mae’n cyfrannu at amrywiol brosiectau a mentrau sy’n anelu at wella lles cymunedol.

Y tu allan i waith a gwasanaeth cymunedol, mae Ana yn gwerthfawrogi aros yn actif ac yn canfod llonyddwch yn harddwch tawel y traeth. Mae’r diddordebau personol hyn yn ei helpu i gynnal bywyd cytbwys a boddhaus, gan ganiatáu iddi ddod â’i hunan orau i’w hymdrechion proffesiynol a phersonol.

Ana