Gall oedolion sy’n cefnogi plant a phobl ifanc yn dilyn (neu’n rhagweld) profedigaeth fod yn anodd. Yn aml, amser mae person arbenning i chi wedi marw, mae teimlad bod yn rhaid i chi fod yn gryf dros y rhai sydd yn eich gofal.
Mae Sandy Bear yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc i rannu eu meddyliau, eu teimladau a’u dealltwriaeth eu hunain o farwolaeth, a’r ffordd orau o greu atgofion cadarnhaol tra bod yn ymwybodol o deimladau’r rhai o’u cwmpas. Rydym yn eich cefnogi chi i wneud yr un peth, ac hefyd ar y ffordd orau i siarad â phlant a phobl ifanc am sut mae nhw yn teimlo, a sut i fynegi eich teimladau eich hun iddynt.
Mae gennym ni lyfrau, gweithgareddau ac adnoddau a all eich helpu i weithio gyda’r rhai yn eich gofal. Mae gennym ni lyfrau, gweithgareddau ac adnoddau a all eich helpu i weithio gyda’r rhai yn eich gofal.
Lle rydym yn cael ein hariannu, rydym hefyd yn cynnal grwpiau rhieni / gofalwyr i roi cyfle i chi gwrdd ag eraill mewn swyddi tebyg i chi’ch hun. Mae hyn yn amhrisiadwy i’n rhieni a’n gofalwyr wrth weithio trwy eu galar eu hunain ac i rannu profiadau o siarad â phlant a phobl ifanc am eu hemosiynau.
Mewn ardaloedd lle nad ydym yn cael ein hariannu i weithio’n llawn, gallwn barhau i gynnig cefnogaeth i chi dros y ffôn ac e-bost.