Mae marwolaeth, marw a phrofedigaeth yn achosi pob math o emosiynau a theimladau a gall fod yn gyfnod dryslyd. Yn bwysicaf oll, mae’n iawn crio, chwerthin, bod yn hapus, bod yn ddig; a phopeth yn y canol. Mae Sandy Bear yma i helpu i ddeall rhai o’r teimladau hynny pan fyddwch chi’n galaru am rywun agos atoch chi sydd wedi marw.
Mae tîm Sandy Bear yn eich helpu i ddeall amgylchiadau’r farwolaeth, i ddeall y gwahanol deimladau y gallech eu profi; ac i edrych ar wahanol adnoddau a fydd yn eich helpu i adeiladu atgofion cadarnhaol o’ch person arbennig.
Gobeithiwn ymhen amser y byddwch yn gallu deall profedigaeth yn well, a bod hyn yn eich helpu i adeiladu atgofion hapus, twf mewn hyder a hunan-wydnwch, a pheidio â chael eich dal yn ôl i wneud pethau rhyfeddol yn y dyfodol
Mae gennym ni weithgareddau, llyfrau a amser i’ch helpu i ddeall sut y gallech chi, eich teulu, ffrindiau ac eraill fod yn teimlo a’ch helpu i siarad â nhw’n haws am sut rydych chi’n teimlo ac am eich colled a’ch galar eich hun.
Yn gyntaf, bydd ymarferwr Sandy Bear yn treulio amser gyda chi i ddeall eich stori, beth sydd wedi digwydd a phwy sydd wedi marw. Weithiau gall hyn gymryd mwy nag un cyfarfod ac mae’n gyfle da i ofyn unrhyw gwestiynau anodd (Mae ein hymarferwyr wedi clywed nhw i gyd, felly peidiwch â phoeni am beth neu sut rydych chi’n ei ddweud, byddwn yn deall) Rydym yn cwrdd â chi yn eich cartref, ysgol a mannau eraill sydd yn diogel fel y gallwch siarad yn agored ac yn gyfrinachol.
I rai Pobl Ifanc, ychydig o sesiynau gydag ymarferwr yw’r cyfan sydd ei angen arnynt. Fodd bynnag, mae yna gyfle wedyn i ymuno â grŵp cymorth cyfoedion gyda phobl ifanc eraill o oedran tebyg, sydd hefyd wedi dioddef profedigaeth. O fewn y sesiynau hyn bydd amser i siarad â’n gilydd a thîm Sandy Bear am deimladau a rannu atgofion arbennig mewn gwahanol ffyrdd. Mae ein grwpiau yn rhedeg o leoliadau gwahanol ac yn lleoedd diogel i fod yn chi eich hun.
Unwaith y byddwch wedi treulio amser gyda’n hymarferwyr a phobl ifanc, eraill, nid ydym yn gorffen fel hyn Rydym bob amser yma i chi suarad ar ffôn, ac mewn rhai achosion yn trefnu cyfarfod os ydych yn cael trafferth, a byddwn yn eich cefnogi i gael mynediad at wasanaethau eraill os oes angen.